Polisi Preifatrwydd

Mae Theatr Mwldan wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a sicrhau bod eich holl wybodaeth bersonol yn saff ac yn ddiogel. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio, cynnal a datgelu data a gasglwyd gan ddefnyddwyr ein gwefan.

 

EICH DATA 
Rheolir ein Swyddfa Docynnau ar-lein gan ddefnyddio Ticketsolve, a phrosesir taliadau trwy Realex. Bydd yr holl archebion - gan gynnwys y rhai a wneir dros y ffôn neu yn bersonol - yn cael eu prosesu drwy'r systemau hyn. Mae gennych yr hawl i optio allan o unrhyw gyfathrebiadau, neu i ofyn i'ch manylion gael eu tynnu oddi ar unrhyw un neu bob un o'n cronfeydd data, ar unrhyw adeg - cliciwch y ddolen mewn unrhyw e-bost, ffoniwch ni, neu e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk i ddiweddaru'ch dewisiadau.

 

Mae Taliadau Realex yn brosesydd cerdyn talu ar-lein dibynadwy iawn, wedi'i achredu gydag ardystiad Diogelwch Gwybodaeth Cyfrif gan VISA ac yn cydymffurfio â Fersiwn 3.22 Diogelwch Safonol y Diwydiant Cardiau Talu, y lefel uchaf o gydymffurfiaeth. Nid ydym yn storio eich manylion banc ar ein system.

Os byddwch yn cofrestru ar ein rhestr e-bost, bydd eich manylion hefyd yn cael eu cynnal ar MailChimp sydd wedi'i integreiddio â'r system Ticketsolve. 

 

TRYDYDD PARTI 

Byddwn byth yn gwerthu unrhyw ran o'ch data, na chwaith yn ei rannu gydag unrhyw artist neu hyrwyddwr oni bai eich bod yn gofyn yn benodol i ni wneud hynny.

Mae’n bosibl, byddwn o bryd i'w gilydd, yn cysylltu â chi ein hunain i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau gan hyrwyddwyr eraill y credwn efallai y byddwch yn eu mwynhau.

 

Y WYBODAETH A GASGLWN 


Gallwn gasglu, storio a defnyddio'r mathau canlynol o ddata personol:
- Gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â'r wefan hon, a'ch defnydd ohoni, megis eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr, ffynhonnell gyfeirio, hyd yr ymweliad a’r nifer o weithiau caiff y dudalen ei gwylio. Sylwer nad yw'r wybodaeth hon yn nodi unrhyw ddefnyddiwr unigol.
- Manylion unrhyw drafodion a wnaethoch wrth archebu tocynnau.
- Gwybodaeth a roddoch i ni er mwyn cofrestru gyda ni.
- Gwybodaeth a roddoch i ni er mwyn tanysgrifio i'n gwasanaethau gwefan, hysbysiadau e-bost a/neu gylchlythyrau.
- Unrhyw wybodaeth arall byddwch yn dewis anfon atom.

 

SUT Y BYDDWN YN DEFNYDDIO'R WYBODAETH HON 
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i gysylltu â chi am ddigwyddiadau a gwasanaethau pellach yr ydych wedi gofyn amdanynt. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi ynglŷn â digwyddiadau a gwasanaethau y credwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, ond dim ond os byddwch yn dewis caniatáu i ni wneud hynny ar adeg roi eich manylion i ni. Os nad ydych chi yn dymuno i ni ddefnyddio'ch gwybodaeth fel hyn bellach, cysylltwch â ni.

 

GWYBODAETH SENSITIF
Mae'r gyfraith Diogelu Data yn cydnabod bod rhai categorïau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif megis gwybodaeth am iechyd, hil, credoau crefyddol a barn wleidyddol. Nid ydym yn casglu'r math hwn o wybodaeth heb eich caniatâd. Er enghraifft, rydym yn cofnodi'ch cais am sedd hygyrch ynghyd ag unrhyw resymau rydych yn darparu ynghylch y cais. Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn hwyluso'ch ymweliad neu ddiwallu eich anghenion ac ni fydd yn rhan o unrhyw brosesu arall o’r fath a ddisgrifir yn y polisi hwn.
 

CWCIS
Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon. Ffeil destun yw cwci a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe, a'i storio gan y porwr. Yna caiff y ffeil destun ei hanfon yn ôl i'r gweinydd bob tro mae'r porwr yn gofyn am dudalen o'r gweinydd. Mae hyn yn galluogi'r gweinydd gwe i adnabod ac i olrhain y porwr gwe.

Mae’n bosib y byddwn yn anfon cwci y gall eich porwr ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gawn gan y cwci wrth weinyddu'r wefan hon, i wella defnyddioldeb y wefan ac at ddibenion marchnata. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth honno i gydnabod eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, ac er mwyn personoli ein gwefan ar eich cyfer.

Mae angen cwcis ar gyfer y broses o archebu tocynnau trwy ein gwefan, gan ddefnyddio'r system Ticketsolve, fodd bynnag, bydd y rhain dros dro yn unig. Mae cwcis dros dro eraill sy’n bresennol ar ein gwefan yno er mwyn sicrhau bod cynnwys y gwefan yn cael ei arddangos yn gywir, a byddant yn diflannu pan fydd eich sesiwn defnyddiwr wedi dod i ben. Ni allwn fod yn gyfrifol am gwcis sy'n ymwneud â nodweddion trydydd parti megis Facebook, Twitter, Google ac ati.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi defnydd y wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth arall am ddefnydd y wefan trwy gyfrwng cwcis, sy'n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Defnyddir y wybodaeth a gynhyrchir sy’n ymwneud â'n gwefan i greu adroddiadau am ddefnydd y wefan. Bydd Google yn storio'r wybodaeth hon. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael ar: http://www.google.com/privacypolicy.html.

 

DATGELU GWYBODAETH 
Nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Byddwn yn gwneud ein gorau i amddiffyn eich data personol, ond ni allwn sicrhau diogelwch y data a drosglwyddir i'r safle hwn a’ch cyfrifoldeb chi yw unrhyw drosglwyddiad o’r fath. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn ofynnol i Theatr Mwldan roi gwybodaeth i'r awdurdodau perthnasol os bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ac yn yr achos hwnnw byddwn yn cydymffurfio ag achosion cyfreithiol.

 

DAD-DANYSGRIFIO 
Os ydych yn dymuno dad-danysgrifio o’n negeseuon e-bost ar unrhyw adeg, neu i newid a diweddaru eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn uniongyrchol neu defnyddiwch y dolenni ar waelod yr e-bost i ddad-danysgrifio.

 

PWY DDYLWN I GYSYLLTU Â NHW OS OES GENNYF BRYDERON NEU GWYNION?
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon. Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn gyda'r awdurdod goruchwylio, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - www.ico.org.uk

 
BETH SY'N DIGWYDD PAN FYDDAF YN DILYN Y DOLENNI O WEFAN ‘THEATR MWLDAN'?
Os ydych yn dilyn dolenni i wefannau eraill o'n gwefan ni, bydd eich data yn ddarostyngedig i bolisïau preifatrwydd y safleoedd hynny. Dylech gyfeirio at y polisïau hyn cyn cyflwyno’ch data. Nid oes gan Theatr Mwldan unrhyw reolaeth dros gynnwys gwefannau eraill.

DIWYGIADAU I'R POLISI PREIFATRWYDD   
Efallai y byddwn yn diweddaru'r polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd trwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech wirio'r dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Efallai y byddwn hefyd yn eich hysbysu o newidiadau i'n polisi preifatrwydd trwy e-bost.

 

 

 

P