Exhibition On Screen: Frida Kahlo

WEDI GOHIRIO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe Exhibition On Screen: Frida Kahlo ar 6  Gorffennaf wedi ei chanslo. Er ein bod yn disgwyl i hyn gael ei aildrefnu, nid oes gennym ddyddiad newydd ar gyfer y sioe ar hyn o bryd.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

Season 7 / 4

Directed by Ali Ray | Release date: 6 July 2020 | Running time: Approx. 90’

Mae'r ffilm hynod ddiddorol hon yn mynd â ni ar daith trwy fywyd un o'r eiconau benywaidd pennaf: Frida Kahlo. Roedd hi'n hunan-bortreadwr toreithiog, yn defnyddio'r cynfas fel drych trwy bob cam o'i bywyd cythryblus a oedd, ar adegau, yn drasig. Gyda chyfweliadau, sylwebaeth a geiriau Frida ei hun yn llywio’r ffilm, mae EXHIBITION ON SCREEN yn darganfod mai nid bywyd oedd hwn, fodd bynnag, a ddiffiniwyd gan drasiedi.

£10 (£9)

90 Munud

Browse more shows tagged with: