Exhibition On Screen: Michelangelo - Love And Death (PG TBC)

Mae cerfluniau a phaentiadau syfrdanol Michelangelo mor gyfarwydd i ni, ond beth mewn gwirionedd rydym yn gwybod am yr athrylith dadeni? Pwy oedd y dyn uchelgeisiol ac angerddol hwn?

Yn grefftwr penigamp, mae gwaith prydferth ac amrywiol megis y cerflun tyrog o Ddafydd, y gwefreiddiol Pietà yn y Basilica Pabaidd yn San Pedr a’i gampwaith, nenfwd Capel y Sistine yn dal i’n syfrdanu heddiw. Bydd y ffilm hon yn eich tywys ar siwrnai sinematig o fywyd tymhestlog Michelangelo.

£10 (£9)

Browse more shows tagged with: