The Handmaiden (18)

Park Chan-wook | South Korea | 2016 | 156’

Dychwela Park Chan-wook gyda’r ffilm gyffro trosedd afaelgar ac erotig hon wedi ei gosod yng Nghorea’r 1930au. Mae’n adrodd hanes Sook-hee, lleidr ifanc wedi ei hurio i weithio fel morwyn i’r Foneddiges HIdeko, aeres ifanc o Siapan, sydd mewn gwirionedd yn wystl mewn cynllwyn gan y twyllwr, y Cownt Fujiwara, i dwyllo’r Foneddiges ifanc o’i harian. Gyda thyndra rhywiol a phlot troellog, caiff The Handmaiden ei gyrru gan berfformiadau nodedig gan ei ddau brif gymeriad a chyfarwyddo moethus. 

£7.30 (£5.50)