Radiator (15)

Tom Browne, UK, 2014, 94’

Yn unig yn eu bwthyn anghysbell yng Nghymbria, mae’r pâr oedrannus Leonard a Maria yn teimlo bod eu bywydau wedi llithro’n raddol o ecsentrigrwydd i anrhefn. Mae eu mab Daniel yn teithio adref i’w helpu ymdopi, ond cyn hir mae’n ymladd yn erbyn ei dad, mae’r tyˆ yn dechrau dadfeilio ac mae teulu o lygod wedi symud i mewn atynt. Yn deimladwy ac yn ddoniol, mae début cyfarwyddol Tom Browne yn astudiaeth ddifyr ar deulu’n ceisio cyd-dynnu.

£7.10 (£5.40)