Zama (15)

Lucrecia Martel | 2017 | Argentina | Brazil | Spain | 112’

Wedi ei wobrwyo am ddewrder ar faes y gad gyda swydd fel ynad mewn tref bellennig ar Afon Paraguay, arhosa Diego de Zama am newyddion o swydd mewn lleoliad mwy deniadol, a fyddai’n ei alluogi i ail-uno â’i wraig a’i blant. Wrth i’r blynyddoedd treiglo, mae Zama’n treulio’i amser yn breuddwydio am y menywod o’i gwmpas ac mae’n dechrau tybio mai bod yn Americano yw’r rheswm bod pwerau ymerodrol wedi ei adael i segura mewn man mor anghysbell.

  £7.50
CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN