THE ADVENTURES OF ALVIN SPUTNIK: DEEP SEA EXPLORER

house a Theatr Mwldan yn cylfwyno

Gynhyrchiad gan The Perth Theatre Company 

 

Creator/Performer- Tim Watts,

Creative Advisor-Arielle Gray,

Technical Advisor-Chris Isaacs,

Producer Perth Theatre Company

Co-producing Partners Wales / UK – house, Theatr Mwldan

 

Mewn asiad hynod ddychmygus o animeiddiad, pypedwaith, tafluniadau , cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, mae Tim Watts yr adroddwr stori ddawnus yn adrodd hanes Alvin Sputnik, y fforiwr cefnforol, a’r chwiliad am ei gariad coll yn nyfnderoedd diddiwedd y moroedd.

Mae’r sioe ryfeddol  hon gydag  un actor, ac sydd wedi ennill llu o wobrau, yn berfformiad unigryw a swynol sy’n emosiynol a chalonogol, yn deimladwy ac yn ddoniol - yn brofiad hyfryd sy’n gampwaith poced hynod o ddyfeisgarwch, llwyfannu a pherfformiad.

Ar Ddaear y dyfodol lle mae’r capiau iâ wedi toddi, prin mae toeau yn rhoi dihangfa rhag y dyfroedd chwyddedig. Mae ein harwr unig Alvin, sy’n dorcalonnus yn dilyn colled ei wraig annwyl, yn clywed ple ar y teledu o Bencadlys y Ddaear yn chwilio am rywun mentrus  sy’n fodlon dod o hyd i werddon goll ar waelod y môr  bydd o bosib yn achub dynoliaeth.

Gan ddefnyddio asiad sy’n barhaol greadigol, deniadol ac od o gyffro byw, pypedwaith, animeiddiad, cerddoriaeth a ffilm, mae’r athrylith o Awstralia Tim Watts yn adrodd ei hanes o gariad, colled ac arwriaeth dawel gydag egni gafaelgar a swyn deniadol.

Ar ôl swyno cynulleidfaoedd ar draws y byd, a derbyn niferoedd o adolygiadau pum seren, mae’n bleser gan Theatr Mwldan a House gyflwyno’r cynhyrchiad gwych hwn ar y daith arbennig hon o Gymru a De Lloegr.

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.

Browse more shows tagged with: