Catrin Finch and Seckou Keita

"intricate, ethereal and entrancing, an elaborate pas-de-deux... remarkable"

Neil Spencer, Uncut Magazine

 

Mae’r prosiect llwyddiannus hwn yn parhau i gyfareddu a gwefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y byd.
 
Mae e wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r delynores Gymreig, Catrin Finch, a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita, gyda llu o wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Enillwyr Albwm y Flwyddyn Cylchgrawn fRoots gyda’u halbwm cyntaf Clychau Dibon.  Yn wir, ymddengys nid oes terfyn ar orchestion y pâr meistrolgar hwn.
 
Mae gan y delyn safle canolog yn niwylliant hynod gyfoethog Gorllewin Affrica a Chymru, ac yn rhyfeddol, mae’r ddwy wlad yn rhannau traddodiad barddonol hynafol o hanesion llafar cain, wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth, cân a phennill.
 
Bydd Catrin a Seckou yn chwarae dyddiadau a gwyliau penodol trwy gydol 2015, ewch at wefan y prosiect am fanylion pellach o’u dyddiadau a digwyddiadau yn 2015, neu i archebu copi o’u halbwm sydd wedi ennill gwobrau, sef Clychau Dibon: www.catrinfinchandseckoukeita.com
 
Oes gennych ddiddordeb mewn trefnu bod y prosiect hwn yn dod i’ch gŵyl neu ganolfan? Cysylltwch â  dilwyn@mwldan.co.uk
 
 

Ar daith yn 2016:

 

Chwefror

17      Gulbenkian Musica LISBON

 

Ebrill

30      Kings Place LONDON    No Voices is curated by Ian Anderson of fRoots Magazine in association with Alan Bearman Music

 

Mehefin

12      Parfum de Musique PARIS

 

Ar daith yn 2017:

 

Chwefror

10    BIMhuis, AMSTERDAM, THE NETHERLANDS

11    Musique de Nuit, Pelgrimvaderskerk, ROTTERDAM, THE NETHERLANDS

12    Oosterpoort, GRONINGEN, THE NETHERLANDS 

14    Cecil Sharpe House, LONDON

Browse more shows tagged with: