Cenhedloedd Dan Ddyfroedd

 Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Access All Areas | 30IPS 

 

Cymru a Nubia. Dwy genedl. Un bennod gyffredin.

 

Mae Cenhedloedd Dan Ddyfroedd yn daith gerddorol sydd yn cynnwys y gantores Siân James a'r gitarydd Gai Toms ochr yn ochr â Nuba Nour, drymwyr ffrâm traddodiadol o'r Aifft, fydd yn cychwyn yng Nghymru ym mis Mawrth 2014. Byddent yn cydweithio am y tro cyntaf ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn nosweithiau hudolus a diddorol o gerddoriaeth o Gymru a Nubia.


Mae penderfyniadau gwleidyddol o'r 1960 au yn parhau i lunio'r byd cyfoes. Yn  Cenhedloedd Dan Ddyfroedd, bydd lleisiau dwy gymuned sydd yn ymddangos nad ydynt yn gysylltiedig, yn uno ar lwyfan i gofio tynged y pentref Capel Celyn yng ngogledd Cymru - a gollwyd i ddyfroedd Cronfa Dryweryn - a'r mamwledydd Nubian traddodiadol yn Aswan, yr Aifft, a foddwyd ar gyfer adeiladu Argae Uchel yr Arlywydd Nasser.

Bydd y cyngherddau yn cynnwys setiau unigol gan bob un o'r artistiaid ynghyd â set gydweithredol arbennig yn cynnwys caneuon am Dryweryn a sefyllfa bryderus y bobl Nubiadd.

 

www.dammednations.com

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.

Browse more shows tagged with: