About Our Spaces & Facilities

Mae pob un o’n hawditoria wedi ei ddylunio a’i greu gyda phrofiad y gynulleidfa mewn golwg. Mae ein theatrau yn amrywio o 101 sedd (Mwldan 3), 146 (Mwldan 1) a hyd at 249 sedd (Mwldan 2) sy’n golygu bod y profiad a chewch ar gyfer pob perfformiad byw yn un gartrefol - dim anawsterau o ran llinellau golwg na golwg cyfyngedig ble bynnag y byddwch yn eistedd - ac i ffilmiau gallwch ymgolli’n llwyr yn y sgrin fawr. Mae ein seddau wedi eu gosod ar raddiant da, ac mae ganddynt ddigonedd o le ar gyfer y coesau.

Defnyddiwn daflunwyr Christie® CP2220 - y taflunwyr mwyaf llachar, gorau eu perfformiad yn eu dosbarth, ac sy’n cyflawni manylebion Mentrau’r Sinema Ddigidol (DCI). Mae sain gwmpasog Dolby wedi ei osod yn ein holl awditoria, ac yn ogystal mae ‘na atgyfnerthiad sain, isdeitlau a sain ddisgrifiad ar nifer o’n dangosiadau i’r rhai sydd eu hangen.

Mae ein holl theatrau ar gael i’w llogi – cysylltwch â Victoria Goddard, Rheolwr Cyffredinol am fanylion victoria@mwldan.co.uk

A