TWISTERS (12A TBC)
Lee Isaac Chung | USA | 2024 | tbc’
A hithau wedi’i phoenydio gan ei phrofiad gyda chorwynt dinistriol, mae Kate Cooper (Daisy Edgar-Jones) yn cael ei denu yn ôl i'r gwastadeddau agored gan ffrind iddi. Mae hi'n cwrdd â Tyler Owens (Glen Powell), seren ddymunol ond di-hid y cyfryngau cymdeithasol sy'n hoffi dogfennu ei anturiaethau yn cwrso stormydd. Wrth i dymor y stormydd ddwysau, mae Kate, Tyler a'u timau yn gorfod brwydro am eu bywydau, wrth i nifer o stormydd gydgyfarfod dros ganol Oklahoma. Cymerwch sedd flaen ar gyfer y reid sgrin fawr hon, ochr yn ochr ag un o rymoedd mwyaf dinistriol byd natur.
£8.40 (£7.70)