42nd Street: The Musical (PG)

Mae 42nd Street, clasur chwedlonol theatr gerdd Broadway, yn ‘gogoneddus’ (Express) ac yn ‘strafagansa hollol ddeniadol o glitz’ (Times). Gan adrodd hanes Peggy Sawyer, perfformwraig ifanc ddawnus uchelgeisiol sy'n cael ei chyfle mawr ar Broadway, dyma'r llwyfaniad mwyaf erioed o’r sioe gerdd a enillodd wobr Tony a chafodd ei ffilmio yn fyw yn y Theatre Royal godidog yng nghanol West End Llundain. Gyda’r trysor cenedlaethol Bonnie Langford fel Dorothy Brock ac yn cynnwys y caneuon eiconig 42nd Street, We’re In The Money a Lullaby Of Broadway, dyma i chi hud cerddorol pur ar y sgrin fawr.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: