Anything Goes: The Musical (PG AS LIVE)

Mae’r cynhyrchiad mawr 5-seren hwn o’r gomedi gerddorol glasurol wedi’i ffilmio’n fyw yn ystod ei gyfres o berfformiadau yn 2021 a werthodd bob tocyn yn y Barbican yn Llundain. Mae’n cynnwys cast llawn sêr dan arweiniad Sutton Foster, un o enwau mawr Broadway, sy’n ail-gydio yn ei pherfformiad fel Reno Sweeney a enillodd Gwobr Tony, ochr yn ochr â Robert Lindsay (My Family), sydd wedi ennill Gwobr Olivier tair gwaith yn ogystal â Gwobr Tony, enillydd Gwobr Theatr Evening Standard Felicity Kendal (The Good Life) ac un o enwogion mwyaf hoffus y West End, Gary Wilmot (Chicago). Rhamant dwymgalon, gyda dawnsiau ysblennydd a rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy’r theatr, ‘a joyously shipshape revival’ (★★★★★ The Observer) yw Anything Goes. Pan mae’r S.S. American yn hwylio allan i’r môr, mae moesau a chonfensiwn yn diflannu wrth i ddau bâr annhebygol gychwyn ar hynt gwir gariad... gan brofi weithiau bod angen ychydig o help ar dynged oddi wrth griw o forwyr cerddorol, cuddwisg ddigrif a rhywfaint o flacmel hen-ffasiwn. Mae’r sioe gerdd ddoniol hon ar draws yr Iwerydd, wedi’i chyfarwyddo gan Kathleen Marshall, cyfarwyddwr a choreograffydd gwobrwyedig Broadway, ac mae’n cynnwys sgôr siriol Cole Porter, gan gynnwys I Get A Kick Out of You, You’re the Top a’r gân enfawr Anything Goes.

156 minutes (Gydag un egwyl - 20 munud)

£17 (£16)

★★★★★
THE SHOW OF THE YEAR. I would give it six stars if I could
The Telegraph
★★★★★
The musical equivalent of sipping one glass of champagne after another
The Times
★★★★★
Sutton Foster dazzles in fizzing tonic for our times
Guardian
Undoubtedly a tonic for our gloomy times
Time Out
★★★★★
A joyously shipshape revival. It is exactly what the captain ordered
The Observer

Browse more shows tagged with: