My Favorite Things (PG) - The Rodgers & Hammerstein 80th Anniversary

Y digwyddiad nodedig hwn o'r Theatre Royal Drury Lane yn cynnwys Cerddorfa Gyngerdd Rodgers a Hammerstein 40 aelod, sêr rhyngwladol y llwyfan a’r sgrin, côr siambr o’r West End, ensemble dawns ac ymddangosiadau gan westeion annisgwyl. Gyda Daniel Dae Kim yr actor teledu, ffilm a llwyfan; Audra McDonald sydd wedi ennill Emmy®, GRAMMY® ddwywaith a Gwobr Tony® chwe gwaith; Julian Ovenden yr enwebai Gwobr Olivier®; Ashley Park yr enwebai Gwobr Tony®, GRAMMY® a Gwobr Dewis y Beirniaid®; Aaron Tveit enillydd y Wobr Tony®; Marisha Wallace yr enwebai Gwobr Olivier; a Patrick Wilson sydd wedi’i enwebu ddwywaith am Tony, ddwywaith am Golden Globe® a Gwobr Emmy - gyda mwy o enwau mawr i'w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf!

Christopher Gattleli, (The King and I, South Theatre Lincoln Center Pacific), y cyfarwyddwr a’r coreograffydd a’r enillydd gwobr Tony sy’n cyfarwyddo a llwyfannu’r dathliad hwn o bartneriaeth hanesyddol Richard Rodgers a Oscar Hammerstein II a fydd yn arddangos trefniadau gwreiddiol y caneuon mwyaf eiconig o Oklahoma!, Carousel, South Pacific, The King and I, Cinderella a The Sound of Music.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: