NT LIVE: FLEABAG (15 AS LIVE)

Mae Fleabag, sydd wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Phoebe Waller-Bridge (Fleabag, Killing Eve) a’i chyfarwyddo gan Vicky Jones, yn olwg hynod ddifyr ar ryw fath o fenyw yn byw ei math hi o fywyd. Yn dilyn cyfnod llwyddiannus tu hwnt mewn sinemâu yn 2019, mae’r sioe un fenyw yn dychwelyd i’r sgrin fawr yr haf hwn. O bosibl mae Fleabag yn ymddangos yn or-rywiol, yn benrhydd o ran emosiynau ac yn llawn hunan-obsesiwn, ond dechreuad yn unig yw hynny. Gyda theulu a chyfeillgarwch dan straen a chaffi moch cwta yn brwydro i aros ar agor, yn sydyn mae Fleabag yn cael ei hun heb ddim i'w golli. Cafodd y ddrama ddoniol, wobrwyedig a ysbrydolodd gyfres deledu lwyddiannus y BBC, Fleabag, ei ffilmio’n fyw ar lwyfan y West End yn Llundain yn 2019. Cyflwynir gan DryWrite, Theatr Soho a Theatr Annapurna.

£13.50 (£12.50)

★★★★★
Witty, filthy and supreme.
The Guardian
★★★★★
Her physical and expressional versatility is even more impressive in the flesh
The Guardian
...while there are equal parts of foundational material and alternate material, one thing rings true: Phoebe Waller-Bridge is a genius
In Their Own League

Browse more shows tagged with: