NT Live: Good (15 AS LIVE)

Bu disgwyl mawr i David Tennant (Doctor Who) ddychwelyd i’r West End, ac mae’n ymddangos yma mewn ail-ddychmygiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain. Wrth i'r byd wynebu ei Ail Ryfel Byd, mae John Halder, athro Almaeneg da, deallus, yn cael ei dynnu i mewn i fudiad gyda chanlyniadau annychmygol. Yr enillydd Gwobr Olivier, Dominic Cooke (Follies) sy’n cyfarwyddo stori amserol C.P.Taylor, gyda chast sydd hefyd yn cynnwys Elliot Levey (Coriolanus) a Sharon Small (The Bay). Wedi'i ffilmio'n fyw yn Theatr Harold Pinter yn Llundain.

£12.50 (£11.50)

★★★★★
David Tennant is riveting, witty and intensely human
Financial Times
★★★★
Stunning
Metro
★★★★
Has the power to chill you to the bone
Time Out
★★★★
David Tennant is magnificent
Guardian

Browse more shows tagged with: