NT Live: Leopoldstadt (12A)

Drama Newydd gan Tom Stoppard

Cyfarwyddwyd gan Patrick Marber. 

Mae Leopoldstadt, drama newydd Tom Stoppard a enillodd wobr Olivier, yn ddrama angerddol am gariad, teulu a dygnwch. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, Leopoldstadt oedd yr hen chwarter Iddewig gorlawn yn Fienna, Awstria. Ond mae Hermann Merz, perchennog ffatri a gafodd ei fedyddio’n  Iddew sydd bellach yn briod â Gretl sy’n Gatholig, wedi gwella ei le yn y byd. Dilynwn stori ei deulu ar draws hanner canrif, gan basio trwy gynyrfiadau rhyfel, chwyldro, tlodi, cyfeddiannaeth gan yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost. Mae cwmni o 40 o actorion yn cynrychioli pob cenhedlaeth y teulu yn y ddrama epig, ond personol hon. Wedi’i ffilmio’n fyw ar y llwyfan yn West End Llundain, ‘mae campwaith Tom Stoppard yn odidog’ (Independent) ac ni ddylid ei golli.

£12.50 (£11.50)