Pryd Mae’r Haf?

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar

Pryd Mae’r Haf?

gan Chloë Moss

Trosiad gan Gwawr Loader

---

“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”

Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.

Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?

Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes. Bydd y perfformiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.

 

13 Mai 8pm - Perfformiad wedi’i ffrydio’n fyw

14 Mai 8pm - Perfformiad wedi’i ffrydio’n fyw

20 Mai 1.30pm - Perfformiad wedi’i recordio, matinee, drama Gymraeg, dim capsiynau

20 Mai 8pm - Perfformiad wedi’i recordio, wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddo Prydain

21 Mai 8pm - Perfformiad wedi’i recordio, drama Gymraeg gyda chapsiynau Saesneg

 

Cast

Aron Cynan – Luke

Ella Peel – Julie

Cellan Wyn – Christie

 

Tîm Creadigol

Awdur: Chloë Moss

Awdur y Trosiad: Gwawr Loader

Cyfarwyddwr: Sion Pritchard

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans

Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins

Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield

Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elin Phillips

Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd

Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn

 

 

 

 

 

£10 (£5), ysgolion £30
Drama ddoniol, dyner wedi ei chyfarwyddo’n fedrus
Barn
Canllaw oed: 14+, yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Browse more shows tagged with: