ROH: CINDERELLA (12A AS LIVE)

Royal Ballet DIGWYDDIAD DARLLEDU

Mae bale Cinderella gan Frederick Ashton, Coreograffydd Sefydlu’r Royal Ballet, yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed y tymor hwn. Cafodd noson agoriadol y bale ym 1948, gyda Moira Shearer a Michael Somes yn y prif rannau, groeso brwd. Ar ôl dros ddegawd i ffwrdd o lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol, mae ailwampiad bythol Ashton o stori carpiau-i-gyfoeth enwog Charles Perrault yn dychwelyd, gan arddangos dawn gerddorol y coreograffydd a harddwch sgôr ragorol Prokofiev. Mae tîm creadigol sy’n hen gyfarwydd â hud theatr, ffilm, dawns ac opera yn dod ag awyrgylch newydd i fyd etheraidd Cinderella sy’n cynnwys dewines garedig, a cherbyd pwmpen, tywysogion golygus a dod o hyd i wir gariad.

£17 (£16)

The dancing is transporting, this ballet embodying the fairytale escapism we all sometimes need, telling us everything will turn out fine in the end
The Guardian
The Royal Ballet’s new production of Cinderella, one of the Ashton jewels in its repertoire, is sumptuous, enchanting and thoroughly entertaining
Culture Whisper

Browse more shows tagged with: