ROH: IL TROVATORE (12A AS LIVE)

The Royal Opera DARLLEDIAD BYW

Mae emosiynau cryf yn dod i’r wyneb wrth i Manrico a'r Count di Luna gystadlu am gariad Leonora. Ond yn ddiarwybod iddynt, mae Azucena, mam Manrico, wedi bod yn cadw cyfrinach ofnadwy ers degawdau. Cyn bo hir bydd melltith o'r gorffennol yn codi o'r lludw gyda goblygiadau dinistriol iddyn nhw i gyd.

Gyda’r sêr Ludovic Tézier a Jamie Barton, mae llwyfaniad egnïol Adele Thomas yn gosod stori Verdi mewn bydysawd a ysbrydolwyd gan Hieronymus Bosch yn llawn ofergoeliaeth ganoloesol. Antonio Pappano sy’n arwain sgôr ddramatig Verdi, sy’n cynnwys y corws enwog ‘Anvil’.

£17 (£16)

Browse more shows tagged with: