ROH: MAYERLING (15)

Royal Ballet DARLLEDIAD BYW

Wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau bywyd go iawn tywyll a llawn cyffro, mae’r clasur hwn gan y Royal Ballet yn darlunio obsesiynau rhywiol a morbid Rudolf, Tywysog y Goron gan arwain at y sgandal llofruddiaeth-hunanladdiad gyda’i feistres Mary Vetsera. Mae hudoliaeth ormesol llys Awstro-Hwngari yn yr 1880au yn gosod y llwyfan ar gyfer drama afaelgar o gynllwyn seicolegol a gwleidyddol wrth i Rudolf ystyried ei farwolaeth. Mae bale Kenneth MacMillan o 1978 yn dal i fod yn gampwaith o ran adrodd stori ac mae’r adfywiad hwn yn nodi 30 mlynedd ers marwolaeth y coreograffydd. Disgwyliwch weld The Royal Ballet ar ei orau mewn golygfeydd ensemble grymus a rhai o'r pas de deux mwyaf beiddgar ac emosiynol dwys yn y repertoire bale.

£17 (£16)

3 awr 25 munud (yn cynnwys dau egwyl)

Browse more shows tagged with: