ROH: RUSALKA (12A AS LIVE)

Royal Opera 

Mae Rusalka, ysbryd dŵr, yn byw gyda'i theulu yn nyfroedd pur llyn y goedwig. Pan mae hi’n syrthio mewn cariad â Thywysog, mae’n aberthu ei llais ac yn gadael ei chartref yn y gobaith o ddod o hyd i wir gariad mewn byd newydd – byd nad yw’n ei charu hi yn ôl. Mae Natalie Abrahami ac Ann Yee yn creu llwyfan newydd barddonol, cyfoes ar gyfer stori dylwyth teg delynegol Dvořák, gan ddatgelu ein perthynas anesmwyth â’r byd naturiol ac ymdrechion dynoliaeth i’w berchen a’i ddofi. Semyon Bychkov sy'n arwain cast llawn sêr sy'n cynnwys Asmik Grigorian (Jenůfa) yn y brif ran.

Cenir yn Tsieceg gydag isdeitlau Saesneg. 

£17 (£16)

Browse more shows tagged with: