ROH: Swan Lake (12A AS LIVE)

ROYAL OPERA HOUSE / ROYAL BALLET

Mae'r stori dylwyth teg glasurol hon yn cynrychioli'r frwydr rhwng da a drwg, ac ymgais cariad i orchfygu’r cyfan. Daw hud y llynnoedd, y coedwigoedd a'r palasau yn fyw gyda dyluniadau disglair gan John Macfarlane a sgôr penigamp gan Tchaikovsky. Mae cynhyrchiad moethus y Royal Ballet o Swan Lake yn dychwelyd i lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol ar ôl i’w adfywiad yn 2020 gael ei amharu gan y pandemig a chau theatrau. Mae'r clasur hwn o'r repertoire yn dyst i gariad parhaol y diweddar goreograffydd Liam Scarlett at glasuriaeth a cherddoriaeth gynhenid, sy'n tywynnu trwy'r cynhyrchiad hwn.

£17 (£16)