ROH: LIKE WATER FOR CHOCOLATE (12A AS LIVE)

Royal Ballet DARLLEDIAD BYW

Mae clasur Mecsicanaidd modern o realaeth hudol yn darparu’r sail ar gyfer gwaith hyd cyflawn newydd The Royal Ballet, gan aduno’r Cydymaith Artistig Christopher Wheeldon â’r tîm creadigol a drawsnewidiodd Alice’s Adventures in Wonderland a The Winter’s Tale yn ddawnsiau, y cyfansoddwr Joby Talbot a’r dylunydd Bob Crowley.

Mae’r bale wedi’i ysbrydoli gan nofel Laura Esquivel – saga deuluol gyfareddol lle mae emosiynau’r cymeriad canolog yn gorlifo wrth goginio ac yn dylanwadu ar bawb o’i chwmpas mewn ffyrdd syfrdanol a dramatig. Yn y cyd-gynhyrchiad hwn gydag American Ballet Theatre, mae’r arweinydd Mecsicanaidd Alondra de la Parra hefyd yn gweithredu fel ymgynghorydd cerdd ar gyfer y sgôr gan Talbot a gafodd ei chomisiynu o’r newydd, ac mae Wheeldon wedi gweithio’n agos gydag Esquivel i ail-lunio ei stori haenog gyfoethog yn fale newydd ddifyr a gafaelgar.

£17 (£16)

3 awr 10 muned (yn cynnwys un egwyl)

Browse more shows tagged with: