Radio GA GA: Celebrating The Champions of Rock (2022)

 

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Sioe Gyngerdd Queen arweiniol y DU yn cael ei pherfformio’n fyw, mewn sioe roc ysblennydd dwy awr!

Dewch i fod yn rhan o ddathliad eithaf un o'r bandiau gorau erioed i gamu i’r llwyfan - Queen. Mae Radio Ga Ga yn ail-greu hud, hwyl a dawn arddangos dyddiau teithiol y band, wrth iddyn nhw chwarae i filiynau o bobl bob blwyddyn.

Ymunwch â ni wrth i ni fynd ar daith trwy'r degawdau, gan gyflwyno pob un o'r 26 cân a gyrhaeddodd y Deg Uchaf yn y DU a holl ffefrynnau dilynwyr y grŵp, wedi eu perfformio'n fyw gyda band gwych, gan gynnwys; Crazy Little Thing Called Love, I Want to Break Free, Somebody to Love, We Are The Champions, We Will Rock You ac wrth gwrs, Bohemian Rhapsody.

Radio Ga Ga; y sioe sy’n gwefreiddio’r wlad.

 

£22.50 (£16 o dan 18)

 

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid/ystadau/cwmnïau rheoli gwreiddiol na sioeau tebyg. Mae’r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y rhaglen. 

GWYBODAETH HANFODOL

  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Theatr Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Bydd rhagor o wybodaeth hanfodol yn cael ei rhoi i chi bythefnos cyn y digwyddiad drwy e-bost.
  • Mae hwn yn ddigwyddiad lle byddwch yn sefyll ar eich traed, er bod croeso i chi ddod â'ch cadair wersylla â chefn isel eich hun (rhaid gosod hon yn y parth dynodedig i ffwrdd o'r brif ardal ddawnsio). 

    CAIS CWRTAIS! Mae’n debyg y bydd y digwyddiad hwn yn un prysur iawn a bydd lle yn yr ardal ddynodedig ar gyfer cadeiriau gwersylla yn gyfyngedig. Helpwch ni drwy beidio â dod â chadair wersylla os nad oes gwir angen un arnoch. Digwyddiad sefyll/dawnsio yw hwn yn bennaf, felly cofiwch y gall pobl yn yr ardal ddawnsio o flaen y llwyfan effeithio ar yr hyn y gallwch ei weld.

  • Siaradwch â'n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. Neilltuir man eistedd ar gyfer cadeiriau olwyn a'r rheiny sydd ag anawsterau symudedd. Os hoffech ddefnyddio'r cyfleuster hwn, rhowch wybod i ni wrth i chi archebu tocynnau gan ddefnyddio'r blwch sylwadau ar-lein, neu drwy ein swyddfa docynnau os ydych yn archebu dros y ffôn.
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
  • Yn y digwyddiad hwn, ni chaniateir bwyd a diod ar y safle sydd wedi ei brynu y tu allan i'r Castell.  Mae croeso i chi ddod â photel ddŵr wag gyda chi i'r safle, y gallwch ei hail-lenwi ym Mar y Pafiliwn.

Browse more shows tagged with: