Catrin Finch and Cimarrón

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Yn ôl yn 2007, fe wnaeth Catrin Finch y delynores o Gymru gwrdd â Cimarrón y band joropo o Golombia a chychwyn ar daith gyffrous o gwmpas Cymru. Gan ddathlu 16 mlynedd ers iddynt gydweithio, mae Catrin a Cimarrón yn dod at ei gilydd unwaith eto i deithio’r DU yn haf 2023.

Mae Catrin Finch yn un o delynoresau gorau’r byd. Mae’n ddawn ryfeddol ac yn anturiaethwraig gerddorol y mae ei gyrfa’n cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd amlycaf y byd ac, yn fwy diweddar, cydweithrediadau aruthrol gwobrwyedig gyda rhai o gerddorion blaenaf y blaned gan gynnwys Edmar Castaneda (Colombia ), Toumani Diabate (Mali), Seckou Keita (Senegal) ac Aoife Ní Bhriain o Iwerddon.

Mae Cimarrón y grŵp 6 aelod sydd wedi’i enwebu am Grammy, dan arweiniad y gantores Ana Veydo, yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, wedi’i wreiddio mewn traddodiad dwfn a ddiffinnir gan dreftadaeth gymysg mestizo o ddiwylliannau Affrica, Sbaen a brodorol. Mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, nwyfus sy’n diogelu’r ysbryd o ryddid sy’n bodoli mewn un o ranbarthau mwyaf dilychwin y byd. Yn gyflym ac yn bwerus, mae eu cerddoriaeth yn cyfuno canu byrbwyll, dawnsio stomp anhygoel a hyfedredd y llinynnau a’r offerynnau taro.

Cyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol.

 

AR DAITH GORFFENNNAF 2023:

12     Castell Aberteifi ABERTEIFI

13     Galeri CAERNARFON

14     The Apex BURY ST EDMUNDS

17     The Borough Y FENNI

18     Turner Simms SOUTHAMPTON

19     Canolfan y Celfydydau Taliesin Arts Centre ABERTAWE

20     Cecil Sharp House LONDON

24     Guiting Festival GUITING POWER

25     Liverpool Philharmonic Music Room LIVERPOOL

26     Acapela, Pentyrch, CARDIFF   

29     WOMAD CHARLTON PARK

30     Cambridge Folk Festival, CAMBRIDGE

31     Musicfest ABERYSTWYTH

 

 

The joropo music at the heart of their performance is an unfettered, passionate, joyful-yet-pained cry from the heart
SONGLINES

Browse more shows tagged with: