Dangosiadau hygyrch
Beth yw’r rhain?
Mae Dangosiadau sy’n addas ar gyfer Awtistiaeth yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’n gynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyrau megis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol. Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefel isel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddod â bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnag sydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadw seddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm os oes angen i unrhyw un ei defnyddio.
Dangosiad hamddenol nesaf -
Dog Man (U) Dydd Sadwrn 1 Mawrth @ 12.15pm
Bridget Jones: Mad About The Boy (15) Dydd Sul 23 Mawrth @ 3.45pm
Disney’s Snow White (PG TBC) Dydd Sadwrn 5 Ebrill @ 1.15pm
Flow (U) Dydd Mercher 16 Ebrill @ 4.00pm
A Minecraft Movie (PG TBC) Dydd Sadwrn 31 Mai @ 1.30pm
How To Train Your Dragon (PG TBC) Dydd Sul 22 Mehefin @ 1.15pm
DDANGOSIADAU GYDAG ISDEITLAU
Beth yw’r rhain?
Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’r sain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis “(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw
Ddangosiadau nesaf gydag isdeitlau yw:
Dog Man (U) Nos Sul 16 Chwefror @ 6.15pm
Captain America: Brave New World (12A) Nos Fawrth 25 Chwefror @ 7.30pm
Bridget Jones: Mad About The Boy (15) Nos Fercher 5 Mawrth @ 8.15pm
Hard Truths (12A) Nos Fercher 12 Mawrth @ 7.15pm
The Brutalist (18) Nos Fercher 19 Mawrth @ 6.30pm
Mickey 17 (15) Nos Fawrth 25 Mawrth @ 7.15pm
September 5 (15) Nos Fawrth 1 Ebrill @ 7.30pm
Disney’s Snow White (PG TBC) Nos Fercher 2 Ebrill @ 6.45pm
A Minecraft Movie (PG TBC) Nos Wener 11 Ebrill @ 7.00pm
The Penguin Lessons (12A) Nos Fawrth 29 Ebrill @ 7.15pm
Mr Burton (12A) Nos Fercher 30 Ebrill @ 6.45pm
The Amateur (15 TBC) Nos Iau 8 Mai @ 7.45pm
Thunderbolts (12A TBC) Nos Fawrth 13 Mai @ 7.00pm
The Salt Path (12A TBC) Nos Fercher 14 Mai @ 6.45pm
Drop (15 TBC) Nos Fawrth 20 Mai @ 7.45pm
The Accountant 2 (15 TBC) Nos Fercher 21 Mai @ 7.00pm
A Big Bold Beautiful Journey (12A TBC) Nos Fercher 4 Mehefin @ 7.15pm
Mission: Impossible The Final Reckoning (12A TBC) Nos Iau 5 Mehefin @ 7.30pm
Lilo & Stitch (U TBC) Dydd Sul 8 Mehefin @ 4.30pm
Ballerina (15 TBC) Nos Fawrth 17 Mehefin @ 7.30pm
How To Train Your Dragon (PG TBC) Nos Fercher 18 Mehefin @ 7.00pm
Karate Kid: Legends (PG TBC) Nos Fercher 25 Mehefin @ 6.45pm
Elio (U TBC) Nos Iau 26 Mehefin @ 7.15pm
Nodwch os gwelwch yn dda, nad oes isdeitlau ar gael ar bob ffilm, ond ble bynnag y mae’n bosibl rydym yn anelu at geisio dangos o leiaf un ffilm â chanddi isdeitlau o’r ffilmiau hynny sydd wedi eu hisdeitlo.
DANGOSIADAU SAIN DDISGRIFIO
Beth yw’r rhain?
Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedi recordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewn y seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n drac sain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed.
Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oes bydd angen clustffonau arnoch.
Am fwy o wybodaeth am hyn cyfeiriwch at: http://www.rnib.org.uk
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl â nam ar eu golwg. Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’n digwyddiadau darlledu byw.
Byddwch yn ymwybodol, nid yw ein gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gael ar hyn o bryd ym Mwldan 1. Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y gallwn.
Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at http://www.dimensions-uk.org/support-services/autism-care/autism-friendly-screenings/
DANGOSIADAU SAIN ATGYFNERTHU
Beth yw hwn?
Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’ch cymorth clyw.
Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw.