Morag Colquhoun: Energia @ Oriel Mwldan
Mae Morag Colquhoun yn arddangos cyfres o fodelau planhigion cwˆyr gwenyn cywrain ynghyd a ffotograffiaeth, cerfluniaeth a fideo. Mae’r corff o waith newydd hwn yn tynnu ynghyd nifer o’r syniadau a’r ysbrydoliaeth: beth yw’r berthynas rhwng egni a diwylliant? Sut bydd ecosystem a hunaniaeth ddiwylliannolyn llifo i mewn ac allan o’i gilydd? Sut caiff hunaniaeth - planhigion, anifeiliaid, pobl, ieithoedd - eu creu, eu croesi, eu cadw, eu diraddio neu eu distrywio? Mae Colquhoun yn archwilio diwylliant gwreiddiedig ac amser araf o arfer leol, ieithoedd, gerddi ac ecosystemau wrth iddynt gyfarfod â llif egni aflywodraethus globaleiddio.
Crëwyd y gwaith hwn mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


