Stephen West: Draw Breath @ Oriel Mwldan
Nid yw’r darnau gwaith Stephen West yn realistig nac yn haniaethol, ond yn llawn egni a mudiant y llinelliad a’r marc rhythmig, naill ai mewn dau ddimensiwn neu mewn cerfluniaeth. Yn ymateb i’r bygythiad diweddar o Ewrop sef sbôr yn yr awyr sy’n lladd coed yr Ynn, bu West yn gweithio ar luniadau mawr sy’n cofnodi cylchred flwyddyn goed yr Ynn o gwmpas ei gartref yn Llangadfan. Yn cael eu harddangos yma hefyd mae ‘na gasgliad o luniadau dychanol a swrrealaidd o gyfarfodydd, rhai yn cyfeirio at gampwaith mawr Picasso yn erbyn rhyfel ‘Guernica’ gyda’i symbolau o’r tarw a’r ceffyl wedi ei anafu a phobl mewn trallod a phensaernïaeth.


