Exhibition On Screen: PAINTING THE MODERN GARDEN - MONET TO MATISSE
Yn seiliedig ar y sioe a werthodd bob tocyn yn Academi Frenhinol y Celfyddydau, Llundain.
Ffilmiwyd a Chyfarwyddwyd gan David Bickerstaff.
Cynhyrchwyd gan Phil Grabsky.
Roedd Claude Monet yn arddwriaethwr brwd a gellir dadlau mai ef oedd yr arlunydd gerddi pwysicaf yn hanes celf, ond nid oedd ar ei ben ei hun. Roedd artistiaid gwych fel Van Gogh, Bonnard, Sorolla, Sargent, Pissarro a Matisse i gyd yn ystyried yr ardd yn destun grymus ar gyfer eu celf. Mae'r artistiaid gwych hyn, ynghyd â llawer o enwau enwog eraill, yn ymddangos mewn arddangosfa arloesol a helaeth gan yr Academi Gelf Frenhinol, Llundain. O waliau'r arddangosfa i ryfeddod a harddwch gerddi artistiaid fel Giverny a Seebüll, mae'r ffilm yn mynd ar daith hudolus ac yn teithio'n eang i ddarganfod sut y gwnaeth gwahanol gyfoeswyr Monet lunio a thrin gerddi modern er mwyn archwilio motiffau mynegiannol, lliw haniaethol, dyluniad addurniadol a syniadau iwtopaidd. Wedi’i arwain gan guraduron brwd, artistiaid a hoffwyr gerddi, bydd y casgliad rhyfeddol hwn o Argraffiadwyr, Ôl-argraffiadwyr, ac artistiaid avant-garde o ddechrau’r ugeinfed ganrif yn datgelu twf yr ardd fodern mewn diwylliant poblogaidd a diddordeb parhaus y cyhoedd â gerddi heddiw. Ystyrir yr ardd ers tro fel gofod i fynegi lliw, golau ac awyrgylch, ac mae wedi meddiannu meddyliau creadigol rhai o artistiaid gorau’r byd. Fel y dywedodd Monet, ‘Ar wahân i beintio a garddio, dydw i ddim yn dda ar gyfer unrhyw beth’. I'r rheiny sy'n hoff o gelf neu sy'n hoff o gerddi, mae hon yn ffilm ddelfrydol.
£12 (£10)