Met Opera: Der Rosenkavalier (Strauss)
DANGOSIAD ENCORE (AIL-BERFFORMIAD) O BERFFORMIAD A GIPIWYD YN FYW AR 13 MAI
Mae’r cast yn cynnwys Renée Fleming fel y Marschallin ac Elina Garanca fel Octavian yn opera mwyaf mawreddog Strauss. Yn ei gynhyrchiad newydd, mae Robert Carsen yn gosod y cyffro tua diwedd cyfnod Ymerodraeth Habsburg, gan gyflwyno is-destun dosbarth a gwrthdaro’r opera yn erbyn cefndir moethus o gilt a damasg coch, mewn llwyfaniad sydd hefyd yn serennu Günther Groissböck fel Baron Ochs. Sebastian Weigle sy’n arwain y sgôr disglair perffaith.
£16 (£15)
