National Theatre Live: Present Laughter (PG)

Mae’r cynhyrchiad gwobrwyedig o gomedi bryfoclyd Noël Coward sy’n cynnwys Andrew Scott (Vanya, Fleabag) yn dychwelyd i’r sgrin fawr.

Wrth iddo baratoi i fynd ar daith dramor, mae ‘na berygl bod yr actor Garry Essendine yn mynd i golli rheolaeth ar ei fywyd lliwgar. Wedi’i lyncu gan argyfwng hunaniaeth sy’n gwaethygu wrth i’w berthnasoedd niferus ac amrywiol gystadlu am ei sylw, mae’r ychydig ddyddiau sy’n weddill gan Garry gartref yn gorwynt gwyllt o gariad, rhyw, panig ac ystyried dwys.

Wedi’i ffilmio’n fyw o The Old Vic yn Llundain yn ystod rhediad lle gwerthwyd pob tocyn yn 2019, Matthew Warchus (Matilda The Musical) sy’n cyfarwyddo’r myfyrdod hynod o fodern hwn ar enwogrwydd, chwant ac unigrwydd.

£15 (£14)

180 mins TBC (including one interval)

Browse more shows tagged with: