RIVERDANCE 25TH ANNIVERSARY

A hithau wedi tarddu fel perfformiad yn ystod yr egwyl yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, mae’r Riverdance wedi datblygu i fod yn ffenomenon fyd-eang. Mae’r cynhyrchiad hwn i ddathlu 25 mlynedd yn ailwampiad grymus ac egnïol o’r sioe, sy’n cael ei chlodfori ar draws y byd am ei cherddoriaeth sydd wedi ennill gwobrau Grammy ac am egni ac angerdd ei ddawnswyr Gwyddelig a rhyngwladol. Cewch weld yn agos atoch y traed chwim rhyfeddol, mynegiadau ac emosiynau’r dawnswyr a’r cerddorion, ynghyd â’r onglau camera creadigol sy’n dangos y gwaith mewn modd mwy personol a dadlennol na sy’n bosibl i gynulleidfa sy’n eistedd yn y seddi.Ceir rhaglen ddogfen fer cyn y sioe sy’n manylu ar hanes y Riverdance ac mae'r egwyl yn cynnwys cipolwg tu ôl i'r llenni ar y sioe anhygoel hon.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: