ROH: Anastasia
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW MEWN DIFFINIAD UCHEL WEDI SGRINIO TRWY LOEREN O BALE BRENHINOL COVENT GARDEN LLUNDAIN
Mae Anastasia yn fale am un o ddirgelion hanesyddol mwyaf yr 20fed ganrif, a ddatryswyd ond yn ddiweddar. Gyda Chwyldro Rwsia ar ei anterth, cafodd y teulu brenhinol eu dienyddio. Wedi hynny, ymddangosodd menyw ifanc, yn honni ei bod yn dywysoges frenhinol, ond credwyd mai twyllwraig ydoedd. Mae Anastasia yn archwiliad dramatig o hunllef cof a hunaniaeth y ferch ifanc hon ac yn un o greadigaethau cyntaf Kenneth MacMillan ar ôl dod yn Gyfarwyddwr y Bale Brenhinol ym 1970.
£16 (£15)
