Bassekou Kouyate & Ngoni Ba + Catrin Finch & Seckou Keita
Cyd-gynhyrchiad Theatr Mwldan | Jazzhaus Freiburg
ACT DDWBL DOUBLE BILL
Profwch ddau o’r actau gorau oll yng ngherddoriaeth byd mewn un act ddwbl arbennig iawn.
CATRIN FINCH A SECKOU KEITA (Cymru/Senegal)
Mae’r deuawd clodfawr Catrin Finch a Seckou Keita yn ymuno i ddathlu’r berthynas hynod rhwng y delyn Gymreig a kora Gorllewin Affrica. Mae eu cerddoriaeth aruchel yn creu seinwedd unigryw; rhythmau Mandinka yn cymysgu’n ddidrafferth ag alawon Cymreig, gyda byrfyfyrio hypnotig gan y ddau mewn set fywiogol a chwareus sy’n neidio ar draws ffiniau diwylliannol, yn crwydro’n rhydd mewn tiriogaeth gerddorol heb ffiniau. Cafodd SOAR, albwm newydd Catrin a Seckou, enillwyr gwobrau niferus, ei ryddhau ym mis Ebrill 2018 gan ddenu clod mawr gan y beirniad ac adolygiadau 5* ar gyfer eu sioeau byw gan y Guardian a’r London Evening Standard, gan arwain Tim Cummings o Gylchgrawn Songlines i’w disgrifio fel ‘act gerddoriaeth byd mwyaf poblogaidd y degawd’.
BASSEKOU KOUYATE A NGONI BA (Mali)
Mae Bassekou Kouyate yn un o wir feistri'r ngoni, sef liwt draddodiadol hynafol i’w chanfod ar draws Gorllewin Affrica, a chaiff ei barchu fel un o artistiaid byd-eang blaenaf Affrica. Mae ei fand, Ngoni Ba, yn cynnwys tri chwaraewr ngoni (yn cynnwys ngonis â chanddynt meintiau cywair gwahanol), dau offerynnwr taro a’r gantores ryfeddol Amy Sacko. Gyda’i gilydd maen nhw wedi chwyldroi sain y ngoni, ganyrru canrifoedd o draddodiad griot i mewn i’r dyfodol. Mae Bassekou wedi cydweithio ag Ali Farka Toure, Toumani Diabate, Taj Mahal a’u tebyg, ac wedi ymuno â Seckou Keita ar daith African Express yn 2016 ynghyd â Damon Albarn a Paul Weller. Deheurwydd rhyfeddol a cherddoriaeth syfrdanol gan un o weledyddion cerddorol Affrica.
Mae’r cyngerdd hwn yn un o ddeuddeg ar draws y DU yn 2019 sydd wedi eu dewis yn arbennig gan Gylchgrawn Songlines i ddathlu ei ben-blwydd yn 20 mlwydd oed.
£24