Cardi Bach (U)

Bydd y sioe ffilmiau nesaf yn cynnwys ffilm newydd yn ogystal a rhai o’r ffimiau sy wedi eu gweld yn barod.

Ffilm gan Gary Evans o Cilgerran yw’r ffilm newydd. Clywodd Gary am y tren gan ei famgu a’i fam gan fod y rheilffordd yn rhan bwysig o’u bywydau. Wedi astudio “Ffilm a Theledu” ym Mhrifysgol Aberystwyth penderfynnodd ddilyn ei ddiddordeb cynnar a chreu ffilm am y rheilffordd leol.

Cysylltodd a “Cymdeithas Rheilffordd Cardi Bach gan ddilyn ei teithiau a chyfweld pobl cynhenid yr ardal a mewnfydwyr a chafodd ei synnu gan yr atgofion a’r cariad oedd gan y bobl o’r lein. Bydd y ffilm hefyd yn darganfod agweddau sy’n cuddio mewn mannau dirgel allan o sylw ond sy’n rhan bwysig o’r stori.