Daoirí Farrell (2025)

Caiff ei dderbyn yn gyffredinol bod y canwr a’r chwaraewr bouzouki o Ddulyn, Daoirí Farrell, yn un o’r cantorion pwysicaf i ddod o Iwerddon yn y blynyddoedd diwethaf. 

Ac yntau’n gynnyrch clwb enwog Dulyn, An Góilin Traditional Singers, ers lansio ei yrfa fyw unigol ei hun yn Celtic Connections 2016, mae Daoirí Farrell wedi mynd o nerth i nerth. Yn dilyn ‘A Lifetime Of Happiness’ yn 2019, a enillodd dri enwebiad yng Ngwobrau Gwerin RTE Radio 1, rhyddhawyd pedwerydd albwm hir-ddisgwyliedig Daoirí, ‘The Wedding Above In Glencree’, ddiwedd mis Chwefror 2023. Cafodd ei gynnwys ar restr chwarae RTÉ Radio 2 yn Iwerddon a chyrhaeddodd rif 11 ar Siart Albymau Gwerin Swyddogol y DU. Ac yntau’n Bencampwr Canu Iwerddon Gyfan yn 2013, mae gwaith byw Daoirí yn cynnwys teithio ymhell ac agos, gan berfformio’n rheolaidd mewn gwyliau ledled y byd gan gynnwys yng Nghanada, Awstralia ac Ewrop. Mae hefyd wedi teithio i UDA fel canwr i Lúnasa, wedi perfformio yn y DU fel rhan o’r Transatlantic Sessions enwog ac wedi chwarae i gynulleidfa fyw a chynulleidfa teledu yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn y Royal Albert Hall yn Llundain. 

Yn fwy diweddar, ym mis Mawrth 2020 bu’n ffrydio’n fyw o’r hyn a alwodd yn ‘Cornel Covid’ o’i gegin yn Nulyn ar Ddydd San Padrig. Dilynwyd hyn gan 25 o berfformiadau ar-lein wythnosol ychwanegol yn olynol, gan ddenu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda dros 15,000 o wylwyr bob wythnos ac arweiniodd at ymddangosiad ar raglen flaenllaw Today ar BBC Radio 4. 

Yn 2023, fe deithiodd Iwerddon, y DU, UDA ac Awstralia a chwaraeodd yng ngwyliau gan gynnwys Gŵyl Werin Caergrawnt, Gŵyl Rudolstadt (yr Almaen) a Folk Holidays (Gweriniaeth Tsiec). Yn 2024, bydd yn teithio’r Unol Daleithiau fel canwr gwadd gyda Lunasa cyn mynd i Awstralia ar daith, gyda theithiau hefyd yn y dyddiadur ar gyfer y DU ac Iwerddon eleni. Yn ogystal â theithio’n rhyngwladol, mae Daoirí yn dal i fireinio ei gelfyddyd gydag ymweliadau dirybudd rheolaidd yn y llu o sesiynau cerddorol ar draws dinas Dulyn.

£18 (£17)

Browse more shows tagged with: