The Fureys (2022)
Mae mawrion cerddoriaeth Wyddelig The FUREYS, sy'n enwog am eu caneuon poblogaidd ‘I will love you’, ‘When you were sweet 16’, ‘The Green fields of France’, ‘The old man’, ‘Red rose café’, ‘From Clare to here’, ‘Her father didn’t like me anyway’, ‘Leaving Nancy’, ‘Steal away' ac yn y blaen yn dychwelyd ar gyfer eu 8fed cyngerdd yma ddydd Mercher 14 Ebrill.
Mae’r FUREYS wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd ers 43 mlynedd, cynulleidfaoedd sydd wedi cynnwys cyn Brif Weinidog Awstralia John Howard, cyn Arlywydd Iwerddon Mary McAleese a’r diweddar Bab John Paul, tra bod Tony Blair wedi nodi’n gyhoeddus mai ei hoff gân heddwch erioed yw ‘Green Fields of France’ gan y FUREYS a mynychodd yr Arlywydd Michael D Higgins eu cyngerdd diwethaf yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol.
Gadawodd y brawd hynaf, Eddie Furey, ei gartref ym 1966 a theithio i’r Alban adeg yr adfywiad gwerin mawr lle bu’n rhannu llety gyda chantorion gwerin oedd yn anhysbys ar y pryd, sef Billy Connolly, Gerry Rafferty ac Alex Campbell. Ym 1969 gyda'i frawd Finbar, ef oedd gwestai arbennig y Clancy Brothers a Tommy Makem ar draws UDA a Chanada. Ym 1971, symudodd i gyfandir Ewrop lle bu ar daith am saith mlynedd. Mae Dave Stewart o'r Eurythmics wedi cydnabod mai Eddie addysgodd ei gordiau cyntaf iddo ar y gitâr pan wnaethant gyfarfod yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr pan roedd Dave yn dal yn ei arddegau.
£22.50