The Fureys: The Farewell Tour

Yn dilyn 9 o berfformiadau blaenorol, bydd THE FUREYS yn chwarae eu cyngerdd olaf erioed yma yn y Mwldan fel rhan o'u TAITH FFARWEL ddydd Mawrth 14eg Ebrill.

Mae enwogion cerdd a chân Iwerddon, The Fureys, sy’n adnabyddus am eu caneuon poblogaidd 'I will love you', 'When you were sweet 16', 'The Green fields of France', 'The old man', 'Red rose café', 'From Clare to here', 'Her father didn’t like me anyway', 'Leaving Nancy', 'Steal away' ac ati, yn camu i’n llwyfan am y tro olaf fel rhan o'u TAITH FFARWEL.

Gadawodd yr hynaf o'r brodyr, Eddie Furey, ei gartref ym 1966 a theithiodd i'r Alban adeg yr adfywiad gwerin mawr lle fe wnaeth gwrdd â'r cantorion gwerin anhysbys bryd hynny, Billy Connolly a Gerry Rafferty a rhannu llety gyda nhw.

Ym 1972, ysgrifennodd Gerry Rafferty 'Her father didn’t like me anyway' i Eddie. Roedd y gân hon yn sengl y flwyddyn i gyflwynydd Radio 1 y BBC, y diweddar John Peel.

Maen nhw’n arbennig o falch o’u llwyddiant yn y siartiau yn y DU gyda chaneuon fel I Will Love You a When You Were Sweet Sixteen, a wnaeth yn ei dro gyflwyno cerddoriaeth werin a thraddodiadol Iwerddon i gynulleidfa gwbl newydd. Perfformiodd y band am y tro cyntaf ar Top of the Pops ym 1981

Mae Eddie Furey yn cofio sut "mae llawer o gerddorion wedi dweud wrthym ein bod wedi dylanwadu arnyn nhw ar ôl clywed record o gasgliad eu rhieni neu fam-gu a thad-cu". Mae Dave Stewart o The Eurythmics wedi rhoi’r clod i Eddie am ddysgu iddo ei gordiau cyntaf ar y gitâr. Byddai Eddie yn talu teyrnged i Dave drwy ymuno ag ef ar y llwyfan ym Mharis am jam yn ystod priodas Dave â Siobhan Fahey o Bananarama.

Mae eu caneuon teimladwy yn cyffroi llawer o emosiynau, dagrau a chwerthin, tristwch a llawenydd.

£27