Gŵyl Fawr Aberteifi 2024: Eisteddfod

YN CYMRYD LLE YN Y MWLDAN

Eleni eto cawn ddiwrnod llawn o gystadlu ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl yn y Theatr. Bydd y diwrnod yn llawn dop o gystadlaethau offerynnol, canu a llefaru gyda Seremoni Cadeirio’r Bardd am 6yh cyn y prif gystadlaethau corawl. Ar ddiwedd y noson bydd y beirniaid yn dewis enillydd Côr yr Ŵyl o blith enillwyr y categoriau corawl. Yn unol a thraddodiad yr Ŵyl daw’r cystadlu i ben gyda chystadleuaeth Y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed.

Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf - 10.30am  |  £7

Nos Sadwrn, 6 Gorffennaf - 5.30pm  |  £9

HYWYRDDIR GAN / PROMOTED BY: Gŵyl Fawr Aberteifi 

Browse more shows tagged with: