Lau

Mae taith byd "Decade of Lau (Best of)”, yn argoeli i fod yn rhywbeth arbennig tu hwnt. Bydd Kris Drever, Martin Green ac Aidan O’Rourke yn chwarae. Set byw unigryw, sy’n cynnwys eu deunydd cerddorol gorau o’r degawd diwethaf. Noson gyda’r triawd gwerin clodfawr, arloesol, arbrofol.

Ers ei albwm gyntaf yn 2007 mae Lau wedi casglu pedair gwobr ar gyfer ‘Grŵp Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 ac mae’r aelodau unigol i gyd wedi ennill gwobrau amryfal ac adnabyddiaeth am eu gwaith unigol clodfawr. Mae Lau wedi ymddangos ar y teledu ar Later…Wita Jools Holland (BBC 2 TV).

Mae Lau yn cynnwys Kris Drever (llais, gitâr), Martin Green (acordion, wurlitzer, allweddellau, electroneg) ac Aidan O’Rourke (ffidl) a gyda’i gilydd maent yn parhau i bontio’n ddiymdrech bydoedd cwbl groes traddodiad gwerin acwstig ac electronica. Ys dywed THE GUARDIAN am y triawd ‘Lau are a remarkable band - the most musically adventurous trio in British folk exquisite and hypnotic, musicianship at its best.’

 

ALBWM Y FLWYDDYN GORAU’R ALBAN – THE HERALD 2015

WEDI EI ENWEBU AM ALBWM Y FLWYDDYN YR ALBAN 2016

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: