NDCW: Roots
4 dawns bachog a bywiog gan GDCCymru
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich tywys trwy noson o ddarganfod gweithiau cyfoes cyffrous gan rai o ddawnswyr gorau’r byd. Yn llawn cymeriad, ffraethineb a symudiadau trawiadol, bydd y noson yn cynnwys trafodaeth hefyd, a hel atgofion gan yr artistiaid.
Mae Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Caroline Finn, yn cyflwyno dau ddarn; Beside Himself sy’n trafod sut y mae’r ego a’r hunan arall yn cyd-fyw ochr yn ochr, ac Animatorium lle mae ‘na feistr anfad yn rheoli ei griw – ond am ba hyd?
Mae They Seek to Find the Happiness They Seem gan Lee Johnston yn bortread dirdynnol o wahanu a dat-gysylltu o fewn perthynas. Mae Omertà gan Matteo Marfoglia yn ddarn grymus a theimladwy am swyddogaeth menywod o fewn cymdeithas y Maffia yn yr Eidal, a’r llwybr tuag at ryddid.