Other Voices Cardigan / Lleisiau Eraill Aberteifi 2023
PRYNWCH EICH BANDIAU ARDDWRN ISOD!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd gŵyl gerddoriaeth eiconig Iwerddon yn dychwelyd i Aberteifi, Ceredigion, yr hydref hwn, rhwng 26-28 Hydref 2023.
Dros y tridiau bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn arddangos amrywiaeth anhygoel arall o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol mewn lleoliadau cartrefol a gofodau llawn naws o gwmpas Aberteifi, dan ofal Huw Stephens ac wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl.
Bydd prif actau yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair*. Caiff y perfformiadau hyn eu darlledu’n fyw i sgrin sinema’r Mwldan ar yr un pryd, a’u ffrydio’n fyw ar y noson yn fyd-eang ar-lein drwy YouTube Other Voices a rhaglenni cymdeithasol eraill.
Rhaglen>>>
Dyma i chi lein-yp Eglwys Y Santes Fair:
The Joy Formidable | Sans Soucis | Yard Act | Adwaith | Colm Mac Con lomaire | Susan O'Neill | King Creosote | Cerys Hafana
Gwrandewch ar artistiaid yr Eglwys ar ein rhestr chwarae Spotify>>>
Yn ogystal â’r sesiynau yn Eglwys y Santes Fair, byddwn yn dod â’r Llwybr Cerdd i leoliadau niferus o gwmpas y dref, a chynhelir y sesiynau Clebran yn y Mwldan eto dros y tridiau, gan sbarduno sgyrsiau ysbrydoledig a thrafodaeth fywiog gyda meddylwyr blaenllaw yn y celfyddydau, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth.
Dyma i chi lein-yp y Llwybr Cerdd:
Angharad / Alffa / amy michelle / Autumns / Cáit Ní Riain / Catrin Finch & Aoife Ní Bhriain / Ceitidh Mac / Chalk / Climbing Trees / Dead Method / Dionne Bennett / Edie Bens / Fia Moon / Gallops / Gráinne Hunt / Gwilym Bowen Rhys / HMS Morris / Joshua Burnside / Lemoncello / Les SalAmandas / Lowri Evans / Mace The Great / Malaki / Mali Hâf / Mari Mathias / MELLT / Minas / MissFaithee / Mount Palomar / Natasha Watts / Samana / Scustin / Seba Safe / Simon Whitehead / Sywel Nyw / Tara Bandito / Teddy Hunter / THUMPER / TRAMP / Uly.
Gwrandewch ar artistiaid y Llwybr Cerdd ar ein rhestr chwarae Spotify>>>
Cyfranogwyr Clebran hyd yn hyn:
Mae Clebran eleni yn cynnwys casgliad o siaradwyr anhygoel, gan gynnwys yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, y delynores Cerys Hafana, yr Athro Cysylltiol mewn Hanes Modern Cynnar John Gallagher; yr awdur, y cyfansoddwr a’r perfformiwr Daf James; yr awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswoode; yr awdur, y podlediwr a’r newyddiadurwr Damian Kerlin; y newyddiadurwr a’r awdur Richard Fisher, yr Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol Dr Sharon Lambert, Rheolwr Rhaglen Wholescape Jessica McQuade a'r hanesydd, yr awdur a’r adolygydd Christopher Kissane, ynghyd â CN Smith, Deirdre de Bhailís, Rheolwr Cyffredinol y Dingle Hub; Hanan Issa - Bardd Cenedlaethol Cymru; Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; Sophie Mackintosh; a Wayne Howard.
Bydd eich band arddwrn yn rhoi mynediad i chi i'r sesiynau Llwybr Cerdd a Clebran ac yn costio £35 yn unig. Mae bandiau arddwrn i’r rheiny dan 18 am ddim* ond rhaid eu harchebu’n uniongyrchol drwy’r swyddfa docynnau.
Yn ogystal, trwy brynu band arddwrn, cewch eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl i ennill pâr o docynnau i weld y prif actau yn sesiynau’r Eglwys (*rhaid ennill tocynnau, ni ellir eu prynu ar gyfer sesiynau’r Eglwys). Bydd gennym hefyd nifer o wobrau arbennig gan fusnesau lleol i’w hennill, ymunwch â’n rhestr bostio neu ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol @othervoiceslive @theatrmwldan am fanylion wrth iddynt gael eu cyhoeddi.
I gael rhagor o wybodaeth am Leisiau Eraill Aberteifi ewch i www.othervoices.ie
Gellir cyfnewid eich e-bost cadarnhad archebu am eich band arddwrn yn hyb gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi a fydd yn agor yn y Mwldan yn ystod wythnos yr ŵyl. Anfonir mwy o wybodaeth am y rhaglen a mynediad i'r digwyddiad yn y misoedd nesaf cyn y digwyddiad.
NODIR OS GWELWCH YN DDA:
Mae capasiti yn gyfyngedig ar draws yr holl leoliadau, felly bydd mynediad ar y noson yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau.
*Cyfeiriwch at y lleoliadau unigol ar gyfer eu polisïau mewn perthynas â phobl dan 18 oed mewn mangreoedd trwyddedig.