Mappa Mundi: The Trials of Oscar Wilde 2017
Cyd-Gynhyrchiad Mappa Mundi | Theatr Mwldan Co-Production
Gan Merlin Holland a John O’ Connor
Nos Iau 14 Chwefror 1895 oedd noson agoriadol orfoleddus The Importance of Being Earnest ac uchafbwynt gyrfa Oscar Wilde. Llai na 100 diwrnod yn ddiweddarach roedd yn garcharwr ac yn fethdalwr cyffredin, wedi ei ddedfrydu gan y Goron i ddwy flynedd a hanner o lafur caled am fod yn hoyw. Ond beth a ddigwyddodd yn ystod y prawf a beth a ddywedodd Wilde? A gafodd ei drin yn llym neu a oedd yn gyfrifol am ei ddinistr ei hun? Gan ddefnyddio’r geiriau go iawn a lefarwyd yn y llys, gallwn deimlo beth yr oedd fel i fod yng nghwmni athrylith amherffaith - gan fod y gŵr hwn sy’n llai na pherffaith yn cael ei droi’n ddyn dibwys.
Mae Mappa Mundi yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd i weld yr Oscar go iawn am y tro cyntaf, yn brwydro dros ei gelf yn ogystal â’i fywyd wrth i ni gael blas go iawn o ddeallusrwydd Oscar ar ei orau - ei gymhlethdod, ffraethineb a’i ddynoliaeth ddwys.
Wedi ei gyd-ysgrifennu gan John O’Connor a Merlin Holland; ŵyr Oscar Wilde.
Yn addas i 14+
AR DAITH YNG NGHYMRU 2017:
Ebrill
28 & 29 Theatr Mwldan, ABERTEIFI
Mai
3 Caolfan Y Celfyddydau Aberystwyth, ABERYSTWYTH
4 & 5 Taliesin, ABERTAWE
9 Theatre Brycheiniog, ABERHONDDU
12 Pontio, BANGOR
16 Torch Theatre, ABERDAUGLEDDAU
17 Borough Theatre, Y FENNI
18 Ffwrnes, LLANELLI
24 Grand Pavilion, PORTHCAWL
25 Coliseum, ABERDARE
27 Newbridge Memo, TRECELYN
Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.