Land Of Mine (15)
Martin Pieter Zandvliet | 2015| Denmark | Germany | 99’
Dyma i chi draethawd yn erbyn rhyfel a ffilm gyffro afaelgar sy’n cronni nerth sylweddol. Denmarc, 1945, ar ôl trechiad yr Almaen. Gorchmynnir y Rhingyll Carl Rasmussen i ddiffiwsio a gwaredu ar 2.2. miliwn o ffrwydron ar hyd arfordir Gorllewinol Denmarc a diogelu’r traethau. Mae’n derbyn grŵp o garcharorion rhyfel yn eu harddegau o’r Almaen i gyflawni’r dasg, a chawsant addewid o ryddid a chael dychwelyd i’r Almaen ar ôl gorffen y gwaith. Profiad anrhydeddus, ingol a chythryblus.
£7.30 (£5.50)