Kroke (Poland) 2023
CYNHYRCHIAD Y MWLDAN
Mae’r triawd Kroke (Iddew-Almaeneg am Kraków) o Wlad Pwyl yn perfformio'r ‘goreuon’ o blith caneuon mwyaf poblogaidd y band o’u gyrfa syfrdanol 30 mlynedd ei hyd. Yn wreiddiol roedd Kroke, a ffurfiwyd ym 1992 gan dri chyfaill - Tomasz Kukrba, Jerzy Bawof a Tomasz Lato - graddedigion yr Academi Gerddoriaeth yn Krakow, yn gysylltiedig â cherddoriaeth klezmer gyda dylanwadau cryf y Balcanau. Erbyn heddiw, wedi’u dylanwadu’n drwm gan jazz, cerddoriaeth gyfoes ac ethnig wedi’u trwytho â’u gwaith byrfyfyr syfrdanol eu hunain, mae’r triawd wedi mireinio arddull hollol unigryw sydd wedi denu sylw artistiaid a chynulleidfaoedd enwog ledled y byd.
Ym 1993 gwahoddodd Steven Spielberg y band i Jerwsalem i berfformio yn seremoni Aduniad y Goroeswyr. Arweiniodd gwahoddiad i chwarae yn WOMAD UK at sesiynau recordio gyda Peter Gabriel yn Real World, ac ymddangosiad dilynol Kroke ar ei albwm Long Walk Home, y trac sain ar gyfer ffilm 2002, Rabbit-Proof Fence. Cafodd y darn Secrets of The Life Tree, a berfformiwyd gan Kroke, ei gynnwys ar drac sain ffilm David Lynch Inland Empire, a daeth gwaith ar y cyd yn sgil cwrdd â Nigel Kennedy – sef albwm East Meets East (2003). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r band hefyd wedi cydweithio ag Anna Maria Jopek, Edyta Geppert, Talila, Tomasz Stańko, Maja Sikorowska, Krzysztof Herdzin, Tindra y band o Norwy, y feiolinydd o Sbaen Diego Galaz, y gantores o Fongolia Urna Chahar Tugchi a cherddorfa Sinfonietta Cracovia, ac wedi ymddangos yn rhai o wyliau cerdd mwyaf mawreddog y byd.
AR DAITH:
TACHWEDD
10 Hermon Arts, OSWESTRY
11 Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
12 Mwldan, ABERTEIFI / CARDIGAN
14 The Apex, BURY ST EDMUNDS
17 Wyeside Arts, LLANFAIR YM MUALLT
18 EFG London Jazz Festival, Union Chapel
19 The Anvil, BASINGSTOKE
21 Turner Sims, SOUTHAMPTON
24 Royal Welsh College of Music and Drama, CAERDYDD