Clwb Mwldan: SONIC SOUNDS: CWMBIA!
CLWB MWLDAN:
SONIC SOUNDS FROM PLANET EARTH:
CWMBIA! (18+)
Mae criw Sonic Sounds yn dychwelyd i Glwb Mwldan, y tro hwn gyda 'Cwmbia!' - noson a ysbrydolwyd gan y Systemau Sain Sonidero o Mexico City a Charnafal Barranquilla. Bydd y dewiswyr miwsig preswyl Derw ac Andy yn chwilota’n ddwfn yn y cewyll i gyflwyno darnau prin o gerddoriaeth llawr dawnsio a miwsig o wledydd yr Amerig sy’n rhychwantu’r genres - Cumbia, Salsa, Champeta, Mambo, Ffync, Disgo a mwy. Naws gyfeillgar ac amseroedd da!
8PM - 1AM
£6 ymlaen llaw / £8 wrth y drws
Digwyddiad dros 18 oed yn unig yw hwn.