Omar Sosa & Seckou Keita: Taith Transparent Water 2017

Cyd-gynhyrchiad Theatr Mwldan | OTA Records | Mintaka 

Mae Transparent Water yn gydweithrediad stiwdio hynod gain rhwng Omar Sosa y pianydd, cyfansoddwr a’r arweinydd band o Ciwba sydd wedi ei enwebu saith gwaith am GRAMMY, a Seckou Keita, y chwaraewr kora meistrolgar a’r cantor clodfawr o Senegal. Yn dilyn rhyddhau Transparent Water yn fyd-eang ar y 24ain o Chwefror 2017, mae’r ddau yn cychwyn ar daith gyda’i gilydd ym mis Tachwedd gyda’r offerynnwr taro Gustavo Ovalles i roi profiad gwefreiddiol byw o’r albwm newydd i gynulleidfaoedd.

Mae Sosa a Keita yn anturwyr cerddorol clodfawr gydag etifeddiaeth gyfoethog sy’n rhychwantu jazz, dylanwadau Lladinaidd ac Affricanaidd, a bydd cyfuno’r ddau ohonynt ar y llwyfan gyda’i gilydd yn brofiad hynod gyffrous.

Transparent Water yw’r esiampl ddiweddaraf o benderfyniad eithriadol Omar Sosa i chwilio am gyfuniadau newydd, yn arwydd o ryddid byrfyfyr a gorfoledd mynegiant artistig ar y cyd gydag Ovalles a Keita, a enillodd Gwobr Albwm Gorau 2016 Affrica a’r Dwyrain Canol Songlines yn ddiweddar am ei albwm unigol diweddaraf, 22 Strings, ynghyd ag enwebiad am wobr yr Artist Gorau.

Cysylltwch a Dilwyn Davies dilwyn@mwldan.co.uk am manylion pellach.

“an extraordinary album seamlessly melding Latin American and West African music”
Roger Farbey, All About Jazz

Browse more shows tagged with: