God's Own Country (15)

Francis Lee | UK | 2017 | 104’

Film amserol ar gyfer Prydain wedi Brexit, mae’r darn sinema cadarn, synhwyraidd a chelfydd yn delio â dod allan a mewnfudo mewn modd ystyriol a gobeithiol. Mae Johnny yn ddyn ifanc anhapus, crac sy’n gweithio ar y fferm deuluol yn Swydd Efrog; mae Gheorghe yn weithiwr o Romania caiff ei gyflogi am ychydig wythnosau. Fel Brokeback i’r Dyffrynnoedd, mae’r ffilm yn bortread empathig am ddwy ffordd o fywyd ar yr ymylon; mae God’s Own Country yn rhamant ddwys sy’n harneisio’r berthynas gyntefig rhwng pobl a lle.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU