Exhibition on Screen: Van Gogh & Japan
“Rwy’n eiddigeddus o’r Japaneaid” ysgrifennodd Van Gogh i’w frawd Theo. Yn yr arddangosfa y mae’r ffilm hon yn seiliedig arni VAN GOGH & JAPAN at the Van Gogh Museum in Amsterdam - gallwn weld paham. Er na ymwelodd Van Gogh erioed â Japan, hi yw’r wlad cafodd y dylanwad dwysaf arno ef ac ar ei gelfyddyd. Cyrhaeddodd celf Japan Paris yn yr 19eg ganrif a chafodd effaith ddofn ar artistiaid megis Monet, Degas,
a Van Gogh. Teithia’r ffilm nid yn unig i Ffrainc a’r Iseldiroedd ond hefyd i Japan i archwilio’n bellach y dreftadaeth hynod a effeithiodd gymaint ar Van Gogh gan greu’r artist sy’n adnabyddus i ni heddiw.
£10 (£9)